Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022

Pwynt Craffu Technegol:

Nodwyd pwynt craffu technegol mewn perthynas â rheoliad 13(2) yn adroddiad y Pwyllgor ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022. Mewnosododd rheoliad 13(2) baragraff newydd, 1ZCA, yn Atodlen 1C i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (“Rheoliadau 2020”) ac roedd y paragraff newydd hwnnw yn cynnwys mân wall croesgyfeirio. Fodd bynnag, mae Rheoliadau 2020, gan gynnwys paragraff 1ZCA o Atodlen 1C, bellach wedi cael eu dirymu gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022. O’r herwydd, nid yw’r gwall a nodwyd gan y pwynt craffu technegol yn cael unrhyw effaith mwyach.